Mae'r Bala yn gartref i rai o'r hyfforddwyr chwaraeon dŵr mwyaf profiadol ym Mhrydain, pa ryfedd pan wnewch chi ystyried y mathau o chwaraeon dŵr sydd ar gael; rafftio dŵr gwyn, canŵs a chaiacs, cychod modur, syrffio, cyrsiau achub a hwylio, i enwi ond rhai.
Mae digonedd o ganolfannau a fydd yn bodloni gofynion y rhan fwyaf o'r rhai sy'n caru'r dŵr, rhai â phyllau nofio wedi eu cynhesu, sy'n ddelfrydol ar gyfer y dechreuwyr a phlant, a rhai hefo'r hyfforddwyr mwyaf profiadol ym Mhrydain ar gyfer y rhai mwy profiadol.
Mae'r safle hwn yn agos iawn at y Ganolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol, y busnes rafftio dŵr gwyn masnachol cyntaf ym Mhrydain yn 1986. Ers hynny maen nhw wedi tyfu i fod yn sefydliad rafftio mwyaf ac uchaf ei barch Prydain.