Does dim rhyfedd bod cerddwyr wrth eu boddau yn dod i Ogledd Cymru. Maent yn dod yma i ddod o hyd iddyn nhw eu hunain (neu i ymgolli) yn yr awyr agored.
Mae bryniau, mynyddoedd a dyffrynnoedd Eryri yn baradwys i gerddwyr gyda golygfeydd trawiadol a digonedd o blanhigion a bywyd gwyllt. Yma mae popeth yn bosibl.
Mae darpariaeth yng Ngogledd Cymru ar gyfer y rhai sydd am ymlwybro yn araf ar hyd llwybrau hawdd yn ogystal â cherddwyr profiadol, felly beth bynnag yw'ch oed neu lefel eich ffitrwydd bydd eich gwyliau cerdded yn un fydd yn rhoi boddhad mawr.
Mae nifer anferth o deithiau cerdded o rai byr iawn i rai dros bellter maith. Er mwyn dod o hyd i rywbeth sy'n addas i chi ewch i'r wefan hon ... walkingnorthwales.co.uk