Tua deg munud mewn car yw tref y Bala ac mae yno nifer o fwytai o answadd da a thafarnau. Tref fechan yw'r Bala ond mae ganddi lawer i'w gynnig i unrhyw ymwelwyr. Mae'r Bala hefyd o fewn cyrraedd hawdd i rai o'r trefi siopa a hanesyddol gwych sydd yn yr ardal fel Caer, Rhuthun, Llangollen a Phorthmadog
Mae tref brysur y Bala ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac mae ar lan Llyn Tegid,y llyn enwog sydd yno a'r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru a chartref y pysgodyn unigryw, y Gwyniad
Mae Caer yn llawn o hanes a hud trwy'r flwyddyn a dyma'r lle perffaith i adfywio'r hwyliau. Gyda digonedd o siopau o bob math a llwythi i'w weld a'i wneud...mae gan Gaer fwy i'w gynnig nag y gallech ddychmygu.
Gweld mwy o wybodaeth am Gaer
Tref fechan ond atyniadol iawn yw Rhuthun, mae'n gyfeillgar a bywiog gyda tua 5,000 o bobl yn byw ynddi yng nghanol Dyffryn Clwyd, dan gysgod bryniau Clwyd a Hiraethog.
Mae Porthmadog yn dref fyrlymus, yn llawn o siopau unigol a mannau bwyta. Mae i'r dref hanes balch a diwylliant a chymuned gryf. Mae'r iaith Gymraeg yn dal yn rhan allweddol o gymeriad y dref, ac mae'r bobl yn groesawus a chyfeillgar.
Betws-y-Coed yw'r ganolfan wyliau fewndirol fwyaf poblogaidd yng Ngogledd Cymru. Yma mae'r Afon Conwy yn cyfarfod ei thair isafon, y Llugwy yn llifo o'r Gorllewin, y Lledr a'r Machno. Adeiladwyd llawer o'r pentref yn oes Fictoria a dyma brif bentref Parc Cenedlaethol Eryri.
Mewn dyffryn hardd ym Mharc Coedwig Eryri, mae'n ddelfrydol ar gyfer gwyliau gweithgareddau awyr agored. Mae nifer o siopau crefftau a gweithgareddau awyr agored yn y pentref a'r Rhaeadr Ewynnol gerllaw.