Bu Eryri yn enwog ar gyfer cerdded ers oes Fictoria, fel y dengys y llun enwog o ferched mewn crinolîn ar gopa'r Wyddfa. Ers hynny mae mynyddoedd Eryri yn llwybrau poblogaidd.
Mae enw Eryri yn dwyn darlun o ardaloedd eang o ucheldir yn cael eu sgubo gan y gwynt a chopaon pigfain. Ar wahân i harddwch a hud y mynyddoedd uchel, mae gan Eryri ddigonedd o gynefinoedd naturiol a rhannol naturiol i'ch ysbrydoli. Mae'r tirwedd hwn yn gynnyrch grymoedd natur a gweithgareddau dynol ac maent yn cael eu cydnabod yn genedlaethol a rhyngwladol trwy nifer o ddynodiadau yn amrywio o Ardaloedd Cadwraeth Lleol i Safle Biosffer y Byd.
Ar ymyl gorllewinol Ewrop, mae tywydd cynnes gwlyb yn sgubo dros Eryri a hwnnw'n cynnal miloedd o rywogaethau a'u cynefinoedd. Mae llawer o'r rhain o bwysigrwydd rhyngwladol ac ni welir rhai ohonynt yn unlle arall yn y byd. Dyma ein hetifeddiaeth ni - ein Bioamrywiaeth.