Profwch eich sgiliau yn nyfroedd Afon Tryweryn ger y Bala, Gogledd Cymru am daith wyllt, wlyb a gwallgo dros y rhaeadrau, lle mae natur yn gwneud ei gorau i droi'r cwch.
Byddwch yn barod am gyfres hwyliog o deithiau i lawr dŵr gwyn cystal ag unrhyw le ym Mhrydain. Mwynhewch daith eich bywyd wrth i chi a'ch criw lywio rafft i lawr trwy droadau, disgyniadau a throbyllau dychrynllyd yr afon hon, sy'n anodd ond yn rhoi pleser pur.
Mae'r system raddio dŵr gwyn yn mynd o 1 (hamddenol) i 6 (rhy wyllt i'w gynnig yn fasnachol) - fel arweiniad, mae'r ganolfan yng Nghymru wedi ei graddio ar 3 / 4