Mae gan Ogledd Cymru lawer iawn i'w gynnig o ran atyniadau teuluol a hanesyddol o zws, parciau fferm a threnau bach i Gestyll, Cartrefi Hanesyddol a Gerddi. Mae'r digwyddiadau yn yr ardal yn cynnwys gwyliau diwylliannol, sioeau amaethyddol a nifer o ddyddiau hwyliog i'r teulu trwy'r flwyddyn.
Mae'r ardal hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys cerdded, beicio, pysgota, golff a chwaraeon dŵr i enwi ond rhai.
I'r Gorllewin mae Eryri, sy'n denu dringwyr a cherddwyr o bob gallu. Ar Benrhyn Llŷn fe gewch rai o'r traethau hwylio a syrffio gorau yng Nghymru.
Mae Ynys Môn wedi ei hamgylchynu gan 125 milltir o arfordir a llu o safleoedd hanesyddol tra bod bryniau Clwyd yn tra-arglwyddiaethu ar y gororau ac mae yno lu o drefi marchnad difyr ar drothwy Dinas Caer.
I deuluoedd mae'r canolfannau glan môr yn cynnig amrywiaeth eang o atyniadau cyffrous a hwyliog, a digonedd o ddigwyddiadau ac adloniant ar fin nos.