
Mae Mynyddoedd y Berwyn/strong> yn ardal fawnog unig a phrin ei phoblogaeth yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, rhwng Llangollen yn y gogledd ddwyrain, Corwen yn y gogledd orllewin, y Bala yn y de orllewin a Chroesoswallt yn y de ddwyrain. Mae'n adnabyddus am y ddamwain UFO honedig ym 1974.
Y daith gerdded orau ym mynyddoedd y Berwyn yw Cadair Berwyn (2723 tr 830 m).
I'r de o'r Bala mae mynyddoedd yr Aran gyda 14 copa dros 2000 troedfedd(600 m). Mae crib yr Aran yn cynnwys y prif gopaon gan gynnwys Aran Fawddwy (2969 tr/905 m) ac Aran Benllyn (2904 tr/885 m).
I'r gorllewin o'r Bala mae mynyddoedd Arenig gydag 13 copa dros 2000 tr (600 m). Arenig Fawr (854 m) yw'r prif gopa.

Bu Eryri yn enwog ar gyfer cerdded ers oes Fictoria, fel y mae'r llun enwog o ferched mewn crinolîn ar gopa'r Wyddfa yn ei gofnodi. Ers hynny mae prif fynyddoedd Eryri yn llwybrau cyfarwydd iawn.