Hen sgubor carreg traddodiadol Cymreig wedi ei adnewyddu yw'r Beudy,sydd yn agos at gartref y perchnogion ar gyrion pentref Llanuwchllyn ger y Bala, ar fferm geffylau 8 erw sy'n magu Cobiau Cymreig byd enwog.
Credwn bod Y Beudy yn hafan arbennig iawn. Gallwch ymlacio yn y twba poeth a gwylio'r byd yn mynd heibio, y ffermwyr wrth eu gwaith, yr anifeiliaid yn pori, yr adar yn canu a hwyliau gwahanol yr Aran gan ddibynnu ar y tywydd. Neu gallwch ddefnyddio Y Beudy, ar y llaw arall, fel canolfan i ddarganfod hud Gogledd Cymru.
Mae mynyddoedd dramatig y Berwyn ar un ochr a mynyddoedd hardd Eryri ar y llall yn cynnig cefnlen ryfeddol i Y Beudy.
Mae llyn naturiol mwyaf Cymru, Llyn Tegid filltir o bentref Llanuwchllyn. Mae teithiau cerdded gwych yn yr ardal hefyd, digon o gyfleusterau yn y Bala, a thrên bach poblogaidd.