Mae cynllunio teithiau gyda'r plant yn haws nag yr ydych yn ei feddwl ond gwnewch ychydig o waith ymchwil, chwiliwch am y daith a'r costau sy'n gweithio i'ch teulu chi, a bydd popeth yn disgyn i'w le.
Mae lawnt a phatio o flaen y Beudy, ardal eistedd ar ddec, dodrefn gardd, BBQ, twba poeth (i 6 o bobl), ffrâm ddringo tu allan ac ardal chwarae i blant; a golygfeydd rhyfeddol.
Mae annog y plant i gerdded yn ffordd wych o wrthweithio'r clwy diffyg symud, ond rhaid defnyddio tactegau a strategaeth. O ran atyniadau, mae gan Ogledd Cymru rywbeth addas i bawb... fe welwch nad oes digon o oriau yn y dydd nag o ddyddiau yn yr wythnos.
Cestyll, cartrefi hanesyddol, gerddi, parciau fferm bywiog, orielau celf, canolfannau crefft, amgueddfeydd, trenau bach, mae'r cyfan yma!.
Gallwch grwydro drwy'r trefi a'r pentrefi llawn cymeriad, darganfod yr arfordir ysgythrog, teimlo'r tywod meddal rhwng bysedd eich traed, neu gael hwyl yn y llu o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal trwy'r flwyddyn.
Beth bynnag fo'r tywydd, mae rhywbeth at ddant pawb.