Mae Cymru yn wlad ddelfrydol i unrhyw un sydd am fentro ar ei feic.
Mae yma filoedd o filltiroedd sy'n wych ar gyfer beic, does dim gwahaniaeth os ydych yn chwilio am lwybrau tawel mewn coedwigoedd neu ddyffrynnoedd, neu am gael y llif adrenalin o fentro ar lwybrau mynydd technegol iawn, neu deithiau ar un trac a fyddai'n dreth ar unrhyw un; mae'r cyfan yng Nghymru.
Os mai teithiau diwrnod epig ar fynydd gydag ambell fwncath neu farcud yn gwmni yw'ch dymuniad, neu fynd ysgwydd yn ysgwydd hefo'r cyfaill mwyaf gwallgof ar gwrs slalom deuol; mae'r cyfan yma.
Mae gan Ddolgellau enw da am feicio mynydd; yn ogystal â'i rhwydwaith ei hun o lwybrau, mae'n agos at y llwybrau anodd a gynlluniwyd i'r pwrpas yng nghoedwigoedd Coed y Brenin a Chorris, a'r teithiau naturiol gwyllt o amgylch Machynlleth. Fel y cyfryw, dyma'r lleoliad perffaith ar gyfer rhywun sy'n newydd i'r gamp a'r arbenigwyr fel ei gilydd.