Mae yma dair ystafell wely hyfryd. Dwy ystafell wely ddwbl 'frenhinol' ac ystafell i'r teulu gyda thri gwely sengl.
Yn yr ystafell wely orielog hon mae gwely maint 'brenhinol' ac mae'n edrych dros yr eiddo a thrwodd ar yr olygfa eithriadol drwy'r talcen gwydrog. Gellir mynd i'r ystafell deulu trwy'r ystafell ymolchi a rennir ac felly mae'n ystafell berffaith i deuluoedd â phlant.
Mae'r ystafell wely yma i fyny'r grisiau hefyd a gellir mynd iddi o Ystafell Wely Un trwy'r ystafell ymolchi a rennir. Mae tri gwely sengl hyfryd yma.
Yn osystal â'r ffenestri yn y to sy'n rhoi ymdeimlad gwych o olau a digonedd o le mae ffenestr arall yn yr ystafell sy'n wynebu'r caeau ac yn edrych i fyny'r cwm .
Mae'r ystafell hon i lawr grisiau ac mae ganddi ei hystafell ymolchi ei hun a gwely 'brenhinol' bendigedig.
Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu'r eiddo hwn cysylltwch â ni yn uniongyrchol