Mae tref farchnad brysur y Bala ar un pen i Lyn Tegid, ym Mharc Cenedlaethol Eryri, a ddynodwyd yn ardal o harddwch naturiol eithriado. Y llyn enwog, Llyn Tegid, yw'r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru ac unig gartref y pysgodyn unigryw, y Gwyniad, a fu yma ers oes yr ia.
Mae'r dref yn llawn o hanes ac mae yma amrywiaeth o siopau diddorol, tafarndai, bwytai, tro trefol hanesyddol, a chanolfan hamdden a sinema. Yng nghysgod mynyddoedd trawiadol y Berwyn ar un ochr ac Eryri ar y llall, dyma i chi Fecca ar gyfer dringo, cerdded, beicio mynydd a nifer o weithgareddau awyr agored eraill.
Ymlwybrwch ar hyd y stryd fawr brysur, goediog a chael cip ar wir gymeriad yr ardal a chlywed y Gymraeg sydd yn dal yn iaith y mwyafrif yma.
Mae'r tro trefol yn cynnig cyfle perffaith i'r rhai sydd â diddordeb yn hanes y dref i gael darlun o orffennol hir a disglair y dref.