Llyn Tegid yng Ngwynedd, oedd y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru cyn i'w lefel gael ei godi gan Thomas Telford i helpu i gadw'r llif yng Nghamlas Ellesmere.
Mae'n 4 milltir / 6.4 km o hyd wrth filltir / 1.6 km o led ac mae'r Afon Ddyfrdwy yn llifo trwyddo, ac mae ei ddyfroedd yn enwog am fod yn ddwfn a chlir. Mae tref y Bala yn sefyll ar ei ben gogleddol ac mae trên bach Rheilffordd Llyn Tegid yn rhedeg am sawl cilomedr ar hyd glan deheuol y llyn.
Mae digonedd o benhwyaid, draenogiaid, brithyll, slywod a Gwyniad yn y Llyn. Yn ei ddyfroedd hefyd mae'r falwen brin iawn Myxas glutinosa - y falwen ludiog. Yn ôl y chwedl mae anghenfil yn byw yn y llyn sydd wedi cael yr enw hoffus Teggie.
Chwedl arall yw nad yw dŵr y Ddyfrdwy yn cymysgu â dŵr y llyn o gwbl.
Erbyn hyn mae'r llyn yn rhan o System Reoli'r Ddyfrdwy ac mae lefel y dŵr sy'n llifo allan yn cael ei reoli yn awtomatig. Gan ddibynnu ar y llif a lefel Llyn Celyn, gall y dŵr lifo naill ai i'r llyn neu allan ohono dan Bont Mwnwgl y Llyn.
Mae nifer o gwmnïau lleol yn cynnig caiacs, llongau hwyliau a gwahanol fathau o gychod i'w rhentu i ymwelwyr. Ar adegau gwyliau mae'r gwasanaethau hyn yn brysur iawn ac mae'n hanfodol archebu ymlaen llaw.