Mae'r llety trawiadol hwn yn cynnwys:-
Ardal fyw agored fawr, gyda nenfwd uchel, cegin fodern, ardal fwyta ac eistedd gyda 3 gris i lawr i'r lolfa haul a drysau Ffrengig i'r ardal ar ddec gyda thwba poeth a golygfeydd rhyfeddol tuag at y mynyddoedd.
Gwresogi dan y llawr trydanol trwy'r adeilad.
Popty a hob trydan, meicrodon, oergell, rhewgell, peiriant golchi llestri. Peiriant golchi a sychwr dillad yn yr ystafell olchi. 1 teledu sgrin fflat 32 mod. a chwaraewr DVD, 1 Teledu / Chwaraewr DVD wedi eu cyfuno, 1 Teledu. Dewis o winoedd asiampên amrywiol gyda blwch gonestrwydd .
Dillad gwely; tyweli yn cael eu darparu. Cot, giat ar y grisiau a chadair uchel.
Lle i barcio 3 car oddi ar y ffordd. Storfa y gellir ei chloi ar gyfer beiciau, canws ac ati. Stabl a thir i geffylau bori trwy drefniant gyda'r perchnogion.Mae gardd gyda lawnt ger Y Beudy a phatio, ardal eistedd ar ddec pren, dodrefn gardd, BBQ, twba poeth (i 6 o bobl), ffrâm ddringo ac ardal chwarae i blant a golygfeydd rhyfeddol o'r mynyddoedd.
Sori ond dim anifeiliaid anwes nag ysmygu.
Siop a thafarn yn gweini bwyd cartref rhagorol tua 1 milltir i ffwrdd (mae llwybr cyhoeddus i'r pentref sy'n daith braf iawn!). Mae Llyn Tegid un filltir i ffwrdd a gellir ei weld o'r eiddo.
Cyn gynted ag y byddwch yn camu i mewn i'r adeilad fe welwch ei fod wedi ei foderneiddio'n chwaethus ac mae'r dodrefn a'r ffitiadau i gyd yn foethus. Mae'r brif ardal fyw yn teimlo'n olau ac ysgafn yn ystod y dydd ond mae'n llwyddo i fod yn gyfforddus a chlud wedi iddi nosi.
Credwn bod Y Beudy yn ysgubor wedi ei adnewyddu gyda'r cyffyrddiadau bach ychwanegol sy'n gwneud gwahaniaeth!
Mae'n eiddo cyffrous sy'n llawn o olau a digonedd o le gyda ffenestri trawiadol i wneud cyfiawnder â’r golygfeydd "roeddem am ddod a'r tu allan i mewn!". Mae'r dewis o liwiau felly yn niwtral, modern, glân a ffres!
Mae cyfuniad yma o'r cymeriad gwreiddiol chyfleusterau modern. Mae'r nenfwd yn uchel, y distiau derw yn y golwg, lloriau derw, gardd ac ardal eistedd ar ddec pren gyda'r twba poeth gwych a'r golygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd.
Mae Y Beudy yn eiddo rhyfeddol mewn rhan ryfeddol o Gymru sy'n berffaith am wyliau cyffrous a moethus trwy'r flwyddyn.
Cymrwch gip ar rai o'r lluniau yn ein horiel